Marwolaeth gyrrwr ger Port Talbot

ffordd afan Image copyright Google
Image caption Bu Suzuki mewn gwrthrawiad â Ford Focus nos Sul

Bu farw gyrrwr yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Port Talbot.

Mae dau berson arall yn dioddef o anafiadau difrifol iawn yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Afan am 2155 nos Sul.

Bu Suzuki Ignis arian a Ford Focus du mewn gwrthdrawiad ger cyffordd Ffordd Victoria.

Bu farw gyrrwr y Suzuki Ignis.

Cafodd tri o bobl driniaeth gan barafeddygon - yn ôl yr heddlu mae cyflwr gyrrwr y Ford a'r teithiwr yn y Suzuki yn ddifrifol iawn.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r diwgyddiad.