Tân Llanelli: Rhyddhau ar fechnïaeth

Tan llanelli
Image caption Roedd yna ddifrod mawr i'w weld wedi'r tan

Mae heddlu Dyfed Powys wedi rhyddhau pum llanc ar fechniaeth yn dilyn tân mewn eglwys yn Llanelli.

Arestiwyd pedwar bachgen 15 oed, a bachgen 16 oed ddydd Gwener. Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Fe wnaed difrod mawr i Eglwys y Parc yn Stryd Murray gan y tân nos Iau.

Bu'n rhaid symud nifer o bobl o'u cartrefi am gyfnod wrth i swyddogion tân reoli'r sefyllfa.