'BBC Cymru angen £30m ychwanegol' medd y Prif Weinidog

carwyn
Image caption Dywedodd y Prif Weinidog: "os na fydd y BBC yn rhoi rhagor o gyllid i Gymru, mae'n bosibl mai cynulleidfaoedd Cymru fydd yn cael y fargen waethaf"

Mae Prif Weinidog Cymru, wedi dweud y dylai BBC Cymru dderbyn £30 miliwn ychwanegol er mwyn cynhyrchu rhaglenni Cymraeg a Saesneg.

Ar hyn o bryd dim ond "y lefel isaf bosibl o ddarpariaeth" sy'n cael ei ddarparu ar gyfer rhaglenni, meddai Carwyn Jones.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC fod y ffi drwydded wedi rhewi a bod angen gwneud arbedion o £700m y flwyddyn, ac felly "roedd yn anochel ei bod yn her i adlewyrchu pob agwedd ar fywyd."

Mewn llythyr at yr Arglwydd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, hawliodd y Prif Weinidog bod bwlch cynyddol o ran cyllid rhwng Cymru a gweddill y DU. Yn ôl Carwyn Jones mae angen £30m ychwanegol er mwyn sicrhau bod y rhaglenni a gaiff eu cynhyrchu yn adlewyrchu bywydau pobl Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog: "os na fydd y BBC yn rhoi rhagor o gyllid i Gymru, mae'n bosibl mai cynulleidfaoedd Cymru fydd yn cael y fargen waethaf o blith holl wledydd y DU. Dyma'r gwir plaen ac nid wyf yn teimlo ei bod hi'n deg bod Cymru ar ei hôl hi fel hyn.

"Nid oes modd i BBC Cymru ddarparu rhaglenni comedi na dramâu o safon uchel bellach, a hynny yn sgil prinder adnoddau. Dyma raglenni a ddylai adlewyrchu ein bywydau ynghyd â'n diwylliant unigryw.

Image caption BBC Cymru sy'n gyfrifol am gynhyrchiadau fel Sherlock

"Cydnabu adolygiad blynyddol diweddar Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC fod 'toriadau wedi golygu bod darpariaeth deledu BBC Cymru ac eithrio rhaglenni newyddion mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed o'r blaen'. Ni all y sefyllfa hon barhau - ac yn arbennig gan fod y sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, mor wahanol. Nid yw Cymru'n derbyn ei chyfran haeddiannol.

"Mae BBC Cymru wedi creu argraff am gynyrchiadau o'r radd flaenaf sydd wedi'u darlledu a'u canmol ar draws y byd gan gynnwys Dr Who, Sherlock a Hinterland. Yn amlwg, hoffem weld y llwyddiant hwn yn parhau ond mae'n hollbwysig nad yw hyn yn digwydd ar draul buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol.

"Am y rheswm hwn rwy'n galw ar y BBC i ddarparu cyllid digonol ar gyfer rhaglenni newyddion a rhaglenni eraill nad ydynt yn rhai newyddion yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Mae o leiaf £30m yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymru'n derbyn y cynnwys cenedlaethol safonol y maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu."

Pwysleisiodd y Prif Weinidog yn ogystal na ddylai'r cyllid gael ei ddarparu ar gyfer rhaglenni Saesneg ar gefn toriadau i gyllid S4C a rhaglenni Cymraeg:

"Hoffwn bwysleisio eto nad yw cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglenni Saesneg yn golygu y dylai'r cyllid i S4C na gwasanaethau Cymraeg y BBC gael ei dorri. Mae gan y BBC swyddogaeth hollbwysig o safbwynt creu cynnwys Cymraeg a mae'n hollbwysig fod y gwaith hwn yn parhau."

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae gan y BBC record dda yng Nghymru wrth i ni barhau i ddenu nifer fawr o wylwyr sy'n gwerthfawrogi ein rhaglenni.

"Gan fod y ffi drwydded wedi'i rhewi a bod angen gwneud arbedion o £700m y flwyddyn, mae'n anochel ei bod yn her i adlewyrchu pob agwedd ar fywyd ym mhob rhan o'r DU drwy ein gwasanaethau teledu.

"Er gwaethaf hyn, rydym yn parhau i ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel yng Nghymru sy'n cael eu mwynhau ar draws y DU, rydym yn credu ein bod yn cynnig gwerth am arian i gynulleidfaoedd."

Image caption Cynllun o adeilad newydd BBC Cymru yn Sgwar Cannolog, Caerdydd