Cweir i Forgannwg yn y Cwpan Undydd

Colin Ingram Image copyright Getty Images
Image caption Colin Ingram oedd y gorau o fatwyr Morgannwg, gan sgorio 102

Mae Morgannwg wedi cael cweir yn eu gêm yn erbyn Middlesex yng Nghwpan Royal London ddydd Llun.

Morgannwg fatiodd gyntaf ac fe gawson nhw ddechrau da wrth i Kettleborough a Rudolph gyrraedd 53 cyn colli'r wiced gyntaf.

Cyrhaeddodd Rudolph 58 cyn colli ei wiced ef, ond Colin Ingram oedd y gorau o fatwyr yr ymwelwyr, gan sgorio 102 cyn cael ei ddal gan Rayner oddi ar fowlio James Harris.

Fe wnaeth Harris gymryd pedair wiced am 38 o rediadau, ac roedd dwy wiced yr un i Rayner a Dexter.

Cooke, 24, a Lloyd, 10, oedd yr unig chwaraewyr eraill i gyrraedd ffigyrau dwbl wrth i Forgannwg sgorio 251 am 9 mewn 50 pelawd.

Dawid Malan oedd seren y gêm i Middlesex, gan sgorio 156 heb fod allan i'r tîm cartref.

Cafodd gymorth gan Paul Stirling, 58, a Sam Robson, 22, wrth i Middlesex gyrraedd y nod gydag wyth wiced a 10 pelawd yn weddill.