Aidan Kerr fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abertawe

B4271 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4271 yn Llanrhidian, ger gorsaf betrol Esso

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe nos Lun.

Bu farw Aidan Kerr, 25 o Abertawe, wedi'r gwrthdrawiad ar y B4271 yn Llanrhidian.

Cafodd yr heddlu, parafeddygon ac ambiwlans awyr eu galw i'r digwyddiad am 19:28 ar 17 Awst.

Mae Heddlu'r De yn apelio i unrhyw dystion gysylltu gyda nhw.