Panteg yn arwyddo seren newydd

Danny Gabbidon Image copyright Empics
Image caption Enillodd Gabbidon 49 o gapiau dros Gymru

Mae clwb pêl-droed Panteg wedi cael achos i ddathlu dros yr haf ar ôl sicrhau dyrchafiad i drydedd adran Cynghrair Bêl-droed Cymru, ac er mwyn dathlu maen nhw wedi arwyddo chwaraewr newydd - Danny Gabbidon!

Ar ddiwedd gyrfa ddisglair a'i gwelodd yn chwarae 427 o weithiau i glybiau fel West Ham, Crystal Palace a Chaerdydd - heb son am 49 o gapiau i Gymru - fe benderfynodd yr amddiffynnwr roi'r gorau i bêl-droed proffesiynol dros yr haf.

Am gyfnod, Gabbidon oedd un o'r enwau cyntaf ar restr y tîm rhyngwladol ac yn amlwg mae tynfa'r bêl gron yn ormod iddo roi'r gorau iddi'n llwyr.

Mae Panteg wedi cadarnhau mai Gabbidon fydd chwaraewr a hyfforddwr y clwb.

Oherwydd ei ymrwymiad i waith gyda'r cyfryngau, ni fydd Gabbidon ar gael ar gyfer wythnosau cyntaf y tymor i'w glwb newydd.

Nid yw Panteg yn bell o Gwmbrân, lle cafodd Gabbidon ei eni a'i fagu, ac mae'r chwaraewr 36 oed yn cael ei weld fel rhan bwysig o gynlluniau'r clwb ar gyfer y tymor i ddod.

Ei gêm broffesiynol olaf oedd yng Nghwpan Capital One dros Gaerdydd y tymor diwethaf, ac fe gafodd ei enwi yng ngharfan Cymru i wynebu Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 fis Tachwedd 2014.

Gall edrych ymlaen yn eiddgar at y gêm gyntaf gyda'i glwb newydd - gêm oddi cartref yn erbyn Cwm Welfare ar 23 Awst.

Straeon perthnasol