Ergyd Mark Reckless a UKIP at bleidiau Cymru

Mark Reckless
Image caption Ers colli ei sedd yn yr Etholiad Cyffredinol cafodd Mark Reckless ei benodi yn arweinydd polisi UKIP

Mae arweinydd polisi UKIP wedi ceisio taro ergyd yn erbyn y pedair plaid yn y Cynulliad - gan ddweud eu bod yn rhan o "sefydliad Bae Caerdydd" sydd wedi colli cysylltiad â'r bobl.

Yn ôl Mark Reckless, cyn Aelod Seneddol UKIP, sydd erbyn hyn yn arweinydd polisi'r blaid, mae UKIP yn barod i ymgyrchu yn erbyn "y consensws" ynglŷn â rhoi pwerau ychwanegol i'r Cynulliad.

Cafodd ei sylwadau eu gwawdio gan ei wrthwynebwyr gwleidyddol. Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur nad oedd pobl Cymru yn rhannu'r un gwerthodd a UKIP.

Mae UKIP yn paratoi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf â hyder cynyddol. Fe enillodd y blaid 200,000 o bleidleisiau yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol ac mae disgwyl i UKIP ennill nifer o seddi yn y Cynulliad pan ddaw'r etholiad yn y gwanwyn.

'Colli cysylltiad'

Yn ôl Mr Reckless "mae'n ymddangos bod pellter rhwng be rwy'n disgrifio fel sefydliad Bae Caerdydd a'r bobl rwy'n siarad gyda nhw ar y stepen ddrws yng Nghymru".

"Maen nhw wedi colli cysylltiad â'r etholwyr. Dwi'n meddwl mai rhan o hynny yw bod sefydliad Bae Caerdydd yn gweld datganoli fel rhywbeth amdanyn nhw ac am eu pŵer a'u dylanwad.

"Mae gennym 20 maes polisi sydd wedi eu datganoli, rydym yn derbyn hynny, fe bleidleisiodd pobl o blaid hynny, rydym eisiau i hynny weithio."

"Dan ni ddim yn credu y dylai sefydliad Bae Caerdydd hawlio'r grymoedd i godi trethi heb ganiatâd pobl Cymru.

"Os ydyn nhw eisiau codi trethi yna fe ddylid cael refferendwm oherwydd yn refferendwm 2011 fe ddywedwyd na fyddai pleidlais 'ie' yn golygu grymoedd i godi trethi. Does dim awydd gan bobl Cymru i dalu trethi uwch na phobl yn Lloegr."

'Llond bol'

Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Daran Hill fe allai disgrifiad UKIP o "sefydliad Bae Caerdydd" fod yn dacteg wleidyddol effeithiol.

Yn ôl Mr Hill "mae'n haws gwneud cyhuddiad fel hyn os nad oes gennych chi gynrychiolaeth yn y Cynulliad".

"Rwy'n credu y gall UKIP fanteisio ar gefnogaeth pobl sydd yn gwrthwynebu'r Cynulliad.

"Efallai bod marchnad iddyn nhw hefyd ymhlith pobl sydd wedi cael llond bol o glywed am bwerau ychwanegol, pwerau codi trethi, pwerau deddfu newydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "'Dyw gwerthodd UKIP ddim cael eu rhannu gan fwyafrif llethol pobl Cymru.

"Mae ganddyn nhw gyn AS Ceidwadol adain dde o Gaint yn dweud wrth bobl Cymru beth i'w feddwl, ac mae hynny yn dangos nad ydyn nhw yn deall Cymru."

Yn ôl y Ceidwadwyr mae UKIP "wedi colli cysylltiad" â'r bobl ynglŷn â datganoli, ac maen nhw am i bobl "ddweud eu dweud" ar dreth incwm drwy refferendwm.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad oes angen "cenedlaetholwr Seisnig" yn dweud wrth Gymru beth sydd ei angen yma, ac yn ôl y blaid fe ddylid datganoli'r hawl i gasglu treth incwm heb refferendwm.

Hawliodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig nad oedd UKIP yn deall pobl Cymru os oedden nhw'n credu bod awydd i gael refferendwm ar gasglu trethi yng Nghymru.

Straeon perthnasol