Pwynt i Gaerdydd yn Blackburn

Image copyright Huw Evans picture agency

Blackburn1-1 Caerdydd

Mae Caerdydd wedi sicrhau pwynt arall oddi cartref - ond fe fydd tîm Russell Slade yn siomedig ar ôl ildio gôl hwyr.

Sgoriodd Caerdydd ar ôl pum munud - yr ymosodwr Joe Mason yn taro ergyd i ganol y rhwyd gyda'i droed dde.

Grant Hanley oedd sgoriwr Blackburn ar ôl 87 munud, o groesiad Craig Conway, cyn asgellwr Caerdydd.

Roedd yn rhaid i Gaerdydd amddiffyn am gyfnodau hir yn yr ail hanner - ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar arbediad hwyr gan David Marshall yn ystod eiliadau olaf y gêm.

Gem gyfartal arall i Gaerdydd felly, eu trydydd o'r tymor.