Buddugoliaeth arall i Wrecsam

Image copyright Getty Images

Kidderminster 1-3 Wrecsam

Mae Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth ardderchog oddi cartref yn Kidderminster.

Sgoriodd Manny Smith i Wrecsam gyda pheniad ar ôl ugain munud.

Cafodd Reece Styche, Kidderminster ei ddanfon o'r maes ar ôl 50 munud ar ôl tacl wael.

Yn gynnar yn yr ail hanner daeth ail gol yr ymwelwyr - cic rydd Sean Newton yn cyrraedd cefn y rhwyd.

Daeth unig gôl Kidderminster ar ôl 79 munud - Andre Wright yn sgorio gyda'i ben.

Eiliadau yn unig o'r diwedd fe ddaeth gôl arall i Wrecsam - Adam Smith â ergyd o du allan y cwrt cosbi.

Mae Wrecsam yn codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair.