Y Gymraeg yn torri'r gyfraith?

Ydy swyddi uniaith Gymraeg yn anghyfreithlon?

Mae Owen John yn gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth. Mae'n trafod gyda Cymru Fyw rai o'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn ymarferol yn y byd cyfreithiol, ac yn edrych ar y newidiadau sy'n dod i rym yn y misoedd nesa':

464 gray line

Perthynas gythryblus

Fel cyfreithiwr, dwi wedi hen ddarganfod fod y berthynas rhwng y gyfraith a'r iaith Gymraeg yn gallu bod yn un cythryblus.

Fe welir esiampl ddiweddar o hyn yn ymatebion rhai o'r cynghorau sir i'r Safonau Iaith Gymraeg newydd a fydd yn cael eu cyflwyno yn yr Hydref, gyda Chyngor Sir Wrecsam yn datgan y byddai'r gost iddyn nhw o gydymffurfio â'r Safonau newydd yn £700,000 y flwyddyn.

O feddwl taw £5,000 yw'r ddirwy uchaf y gall Comisiynydd y Gymraeg orfodi ar fudiad am beidio cydymffurfio â'r Safonau, mae'n anodd gen i gredu y bydd gan gynghorwyr Wrecsam lawer o ddiddordeb mewn gwario £700,000!

Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddes i ar draws esiampl arall o'r gwrthdaro posibl rhwng y gyfraith a'r Gymraeg. Dwi'n siŵr fod pawb wedi gweld swyddi yn cael eu hysbysebu ble mae'r "gallu i siarad a darllen Cymraeg yn angenrheidiol", ond nid pawb, am wn i, sydd wedi ystyried p'unai fod y fath hysbysebion yn torri'r gyfraith. Er, dyma'r fath o gwestiwn dwi'n aml yn gorfod ystyried yn fy rôl fel cyfreithiwr cyflogaeth.

Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y safonau iaith newydd yn cael eu parchu
Image caption Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, fydd yn gyfrifol am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio gyda'r safonau iaith newydd

Anghyfreithlon?

Does ond angen cael cipolwg cyflym ar y we i ddarganfod fod yna nifer o bobl (yn eu plith, yr unigolion holl-wybodus hynny sydd yn cyfrannu sylwadau ar waelod erthyglau WalesOnline) yn dadlau fod y fath swyddi yn anghyfreithlon am eu bod nhw'n anffafrio yn erbyn y rheini sydd yn ddi-Gymraeg. Ond a oes ganddyn nhw bwynt?

Wrth roi fy het gyfreithiol i un ochr am funud, "oes" yw'r ateb yn fy marn i. Yn wir, onid yw pob hysbyseb swydd yn anffafrio (yn ystyr bob dydd y gair) yn erbyn rhyw gategori o berson?

Er enghraifft, onid yw hysbyseb am yrrwr tacsi sydd yn gofyn i'r ymgeisydd fod â thrwydded yrru yn anffafrio yn erbyn y rheini sydd heb drwydded yrru? Ac onid yw hysbyseb am ddawnsiwr proffesiynol yn anffafrio yn erbyn y rheini, fel fi, sydd yn methu dawnsio?

Serch hyn, gan droi at y gyfraith, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gellir ond anffafrio (yn ystyr gyfreithiol y gair) yn erbyn unigolyn ar sail un o naw nodwedd benodol. Y naw nodwedd yw: hil, oedran, anabledd, crefydd, rhyw, newid rhyw, rhywioldeb, beichiogrwydd, neu'r ffaith fod rhywun wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.

Fel y gwelwch, dyw 'iaith' ddim yn ymddangos ar y rhestr, ac felly, dyw hi ddim yn anghyfreithlon i anffafrio yn erbyn rhywun ar sail eu hiaith, neu eu diffyg iaith.

Safonau iaith

Fe gadarnhawyd yr egwyddor hon yn achos Cyngor Gwynedd v Jones nôl ym 1986. Yn yr achos hwn, fe wrthodwyd Mrs Jones am swydd mewn cartref hen bobl ar y sail nad oedd hi'n medru siarad Cymraeg, er gwaetha'r ffaith ei bod hi fel arall yn gymwys am y swydd. Cyflwynodd Mrs Jones achos o anffafriaeth yn erbyn Cyngor Gwynedd.

Fe gollodd Mrs Jones ei hachos yn y Tribiwnlys Cyflogaeth Apêl (TCA), ac fe gadarnhaodd y TCA nad oedd modd anffafrio yn erbyn unigolyn ar sail eu diffyg iaith. Newyddion da felly i gyflogwyr sydd yn dymuno hysbysebu swyddi uniaith Gymraeg.

Braf felly gweld fod y gyfraith a'r Gymraeg yn medru cyd-fyw yn heddychlon. O leiaf tan i'r Safonau Iaith ddod i rym yn yr Hydref beth bynnag!

llys Image copyright Getty Images

Mae Owen John yn gyfreithiwr cyflogaeth yn Darwin Gray, ac yn un o sefydlwyr y wefan boblogaidd www.cyfreithwyr.com, sydd yn galluogi pobl i chwilio, ynrhad ac am ddim, am gyfreithwyr cyfrwng Cymraeg addas yn eu hardal nhw.