Ryan Jones yn ymddeol o rygbi wedi cyngor meddygol

Ryan Jones
Image caption Mae Ryan Jones wedi ennill 75 o gapiau dros Gymru

Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Ryan Jones, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol yn dilyn cyngor meddygol.

Fe wnaeth Jones, 34 oed, ennill 75 cap i Gymru ac roedd yn rhan o dair carfan enillodd y Gamp Lawn.

Cafodd lawdriniaeth ar ei ysgwydd ddiwedd y tymor diwethaf, ond mae wedi gorfod ymddeol heb allu chwarae eto i'w glwb Bryste, oherwydd y perygl o wneud niwed pellach i'w ysgwydd.

Dywedodd y blaenwr bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn "anodd yn emosiynol i fi" a'i fod wedi gorfod derbyn "y ffaith er bod fy meddwl yn barod iawn, nid yw fy nghorff yn gallu gwneud yr hyn 'dwi am iddo wneud ar y cae rygbi".

'Balchder a boddhad'

Roedd gan Jones flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb gyda Bryste, wedi iddo ymuno gyda nhw yn 2014.

Cyn hynny'n bu'n chwarae i'r Gweilch am 10 mlynedd.

Fe wnaeth ddioddef nifer o anafiadau i'w ysgwydd yn ystod blynyddoedd olaf ei yrfa, gyda'r diweddaraf yn dod mewn gem yn erbyn Caerwrangon ym mis Mai.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Jones ei anaf ddiwethaf wrth chwarae i Fryste ym mis Mai
Image caption Dywedodd Jones bod ymateb Cymru i'r Haka cyn gêm yn erbyn Seland Newydd yn 2008 yn uchafbwynt o'i yrfa

Mae Jones yn un o dri chwaraewr o Gymru i ennill tair Camp Lawn, yn 2005, 2008 a 2012.

Chwaraeodd wrth i Gymru golli yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn erbyn Ffrainc yn 2011, yn ogystal â thair gem ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

Daeth ei gap olaf yn erbyn Tonga yn 2013, pan oedd yn gapten yn y fuddugoliaeth o 17-7 ym mis Tachwedd.

Dywedodd: "Wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa, gallaf ddweud fy mod wedi mwynhau rhai uchafbwyntiau gwych, ac er bod rhai adegau isel ar hyd y daith, y prif deimlad yw un o falchder a boddhad."