Canfod trysor o'r 17eg ganrif

trysor Image copyright Robin Maggs

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth, 19 Awst, bod darn arian gafodd ei ganfod dros ddwy flynedd yn ôl yn drysor.

Cafodd y darn, sy'n dyddio o hanner cyntaf yr 17eg ganrif, ei ganfod gan rhywun oedd yn defnyddio synhwyrydd metel ym mis Mawrth 2013.

Mrs Gordana Mitchell o Lannau Dyfrdwy oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r darn, sy'n cynnwys portread o santes a ffigyrau eraill sy'n nodweddiadol o wrthrychau arian o'r 1630au.

Dywedodd Dr Mark Redknap o Amgueddfa Cymru:

"Rydym ni o'r farn y gallai'r addurn fod wedi bod yn sownd i flwch fel rhan o golyn addurnedig, neu y gallai fod wedi cael ei ddefnyddio i addurno gorchudd Beibl bach neu lyfr gweddi.

"Os nad yn santes arbennig, gallai'r ffigwr benywaidd gynrychioli'r Forwyn Fair. Er nad yw'r gyflawn, mae'n enghraifft ddiddorol o waith arian addurnedig o'r ail ganrif ar bymtheg."

Straeon perthnasol