Saith Diwrnod

cnydau Image copyright SPL
Image caption Yn ôl Dylan Llŷr, addasu cnydau yw sylfaen amaeth

Catrin Beard sy'n cymryd golwg yn ôl ar rai o straeon y wasg Gymreig a blogiau'r wythnos:

Does dim byd sy'n well gan rai pobl na chwyno am safon iaith darlledwyr.

Tro llythyrwr yn y Cymro, WG Roberts o Bwllheli, yw hi yr wythnos hon, ac un peth mae'n galw amdano yw am roi'r farwol i ddau neu dri ebychiad a glywir mor aml ar y radio sef yr 'Hei!' anghwrtais yna, a'r defnydd diddiwedd o 'OK'.

Gwaetha'r modd, dywed, mae lle i amau a fydd cyflwynwyr BBC Cymru'n gweld y sylwadau hyn yn y Cymro.

Hwyrach y byddan nhw i'w gweld ar un o'r llu dyfeisiadau torfol uffernol o anghymdeithasol sy'n rheoli bywydau o fore tan nos. Hei, hwyrach wir.

Ok, dyna roi'r cyflwynwyr yn eu lle.

Addasu cnydau

Digon blin yw Dylan Llŷr yr wythnos hon hefyd ar ei flog Anffyddiaeth ar ôl darllen am fwriad llywodraeth yr Alban i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n enetig.

Y gwir yw, yn ôl Dylan, ein bod wedi bod yn ddiwyd yn addasu planhigion, ac anifeiliaid o ran hynny, ers miloedd o flynyddoedd.

Dyna holl sylfaen amaethyddiaeth: rydym yn dewis y cnydau neu'r da byw sy'n diwallu ein hanghenion orau, a defnyddio'r rheiny er mwyn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf.

Yr unig wahaniaeth, yn achos yr hyn sy'n peri braw i rai pobl heddiw, yw bod yr addasu hwnnw'n digwydd mewn labordy, ac yn cael ei wneud gan wyddonwyr mewn cotiau gwyn.

Mae carfan o'r mudiad amgylcheddol sy'n obsesiynu ynghylch y 'naturiol', sydd, yn eu tyb hwy, yn rhagori ar yr 'artiffisial'.

Nonsens fel hyn sy'n arwain at honiadau hanner-pan fel y syniad bod 'cemegion' yn ddrwg yn eu crynswth, er mai cemegion yw popeth, yn llythrennol, yn y byd i gyd.

Nid syniadau blaengar mo'r rhain, eithr y gwrthwyneb. Lol emosiynol gwrth-wyddonol ydyw, ac mae'r sawl sy'n ei harddel yn Luddites adweithiol.

Image caption Digymod gyda bywyd wedi'r 'Steddfod

Eisteddfota

Yn ôl Angharad Tomos yn yr Herald, un o'r pethau anodd wedi 'Steddfod ydi dygymod efo bywyd bob dydd, a byw mewn tŷ.

Ond o'i disgrifiad hi o wersylla ar faes yr Eisteddfod eleni, fyddwn i'n meddwl mai diolch i'r nef am gael dianc yn ôl i wareiddiad fyddai hi.

Y gorchymyn cyntaf a gafodd ar ôl setlo ar y maes oedd 'Dim Ceir'. Mae car yn handi iawn wrth wersylla yn ôl Angharad - hwn yw y cwpwrdd dillad, yn y bŵt mae'n molchi a golchi llestri.

Wedyn doedd dim dŵr yfed ar gael, ac erbyn diwedd yr wythnos roedd 250 o bebyll wedi'u gwasgu i'r cae, yn union fel gwersyll ffoaduriaid.

Ond ar ôl dod adre, mae'n colli cael ei deffro yn blygeiniol gan geiliog Mathrafal, yfed paned gynta'r bore wrth ogleuo bacwn yn dod o'r babell gyfagos (pleser cudd pob feji) a'r blas cymaint gwell sydd ar fwyd pan gaiff ei fwyta yn yr awyr iach.

Pawb a'i ddiléit.

Cwt ieir o glwb nos

Wrth glywed yr adroddiadau fod y nifer o glybiau nos ym Mhrydain wedi haneru dros y ddegawd ddiwethaf, hel atgofion am ei hieuenctid ffôl mae Bethan Gwanas yn yr Herald yr wythnos hon.

Roedd hi'n un o gwsmeriaid cyson Emmas, ryw gwt ieir o le oedd yn rhan o'r Golden Lion yn Nolgellau tua'r 1980au.

I fanno y byddai hi a'i chyfeillion yn stwffio eu hunain ar nos Sadwrn ar ôl 'Last Orders', a phwy allai eu beio nhw o glywed y disgrifiad o nifer o ffermwyr lleol yn troi i fyny yn ei welingtyns, heb drafferthu i molchi cyn ymuno yn y môr o gyrff oedd yn neidio'n wyllt i MC Hammer.

Cafwyd cryn dipyn o hwyl yn fanno, nes iddo gau yn ôl Bethan.

Unwaith eto, pawb â'i ddiléit.

Image copyright Patrick Llewelyn-Davies
Image caption 'Ogleuo bacwn - pleser cudd pob 'feji'