Burnham yn ôl yn ymgyrchu yng Nghymru

Burnham

Mae ymgeisydd i fod yn arweinydd nesaf y blaid Lafur, Andy Burnham, wedi ymweld â Chymru am yr eildro mewn wythnos wrth ymgyrchu yn Abertawe ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y cyn ysgrifennydd iechyd, oedd yn Wrecsam ddydd Sul, gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb yng Nghlwb Cymdeithasol Penlan.

Mae wedi gwneud addewid o fwy o ryddid i Lafur Cymru, ac wedi dweud bod datganoli yn "ein dal ni gyda'n gilydd fel Teyrnas Unedig".

Yvette Cooper, Jeremy Corbyn a Liz Kendall yw'r ymgeiswyr eraill i fod yr arweinydd nesaf.

Yn ôl Mr Burnham, mae Llafur wedi colli cysylltiad gyda phobl ar lawr gwlad, ac mae wedi addo gwneud "unrhyw beth y gallaf" i gadw'r blaid gyda'i gilydd.

Mae sawl aelod amlwg o'r blaid wedi honni bod Llafur yn wynebu blynyddoedd allan o bŵer os fydd Mr Corbyn yn cael ei ethol fel arweinydd, er bod ganddo gefnogaeth mwy o bartïon etholaeth nac unrhyw ymgeisydd arall.

Image caption Jeremy Corbyn, Andy Burnham, Liz Kendall ac Yvette Cooper yw'r ymgeiswyr i arwain y blaid Lafur