Cymro yn torri record byd ymwthiadau

Carlton Williams Image copyright Guinness World Records
Image caption 1,874 oedd record blaenorol Carlton Williams

Mae Cymro wedi torri record byd am gwblhau'r nifer fwyaf o ymwthiadau, neu press-ups, mewn awr.

Fe wnaeth Carlton Williams, 50 oed, sy'n byw yn Awstralia bellach, dorri ei record ei hun gan wneud 2,220 mewn awr.

Dywedodd ei fod wedi torri'r record er mwyn "profi unwaith ac am byth bod y Cymry yn uwchraddol yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn ysbrydol".

"Wnes i ddim teimlo llawer o boen, ges i anaf i fy ysgwydd - dyna oedd y broblem fwyaf," meddai. "Ar ôl ychydig rydych chi'n arfer hefo'r peth."

Fe wnaeth Mr Williams dorri'r record yn Margaret River, Gorllewin Awstralia ar 25 Gorffennaf, ac fe gafodd y record byd ei chymeradwyo gan Guinness ar 10 Awst.