Brown yn serennu yn erbyn Morgannwg

Karl Brown
Image caption Karl Brown oedd y seren i Sir Gaerhirfryn ar ddiwrnod anodd i Forgannwg

Mae Sir Gaerhirfryn wedi cyrraedd 161-3 ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn erbyn Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Sir Gaerhirfryn alw yn gywir ac fe benderfynon nhw i fatio gyntaf ym Manceinion.

Karl Brown oedd y gorau o fatwyr y tîm cartref, gan gyrraedd 80 heb fod allan erbyn diwedd y dydd.

Fe wnaeth bowlwyr Morgannwg ei chael hi'n anodd yn gynnar yn y dydd, ond Haseeb Hameed oedd y cyntaf o fatwyr Sir Gaerhirfryn i golli ei wiced, oddi ar fowlio Graham Wagg.

Alviro Petersen oedd y nesaf i fynd, cafodd ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio David Lloyd.

Roedd wiced arall i Wagg yn fuan wedyn, wrth iddo gymryd wiced Ashwell Prince am ond 4 rhediad.

Doedd yr ymwelwyr methu manteisio ar ôl hynny, ac roedd rhaid gorffen chwarae yn gynnar oherwydd y tywydd.