Gweddillion Abaty Margam wedi'u hadfer gyda grant

Abaty Margam Image copyright Neath Port Talbot council
Image caption Mae'r gwaith adfer wedi atal yr abaty rhag mynd i gyflwr gwaeth

Mae gweddillion abaty 12fed ganrif yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'u hadfer gyda chymorth grant o £240,000.

Mae'r cyngor wedi bod yn gwneud gwaith mawr i adfer yr adeiladau rhestredig Gradd I yn Abaty Margam.

Roedd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar blanhigion ac adfer gwaith carreg a chraciau.

Dywedodd arweinydd y cyngor Ali Thomas bod y cynlluniau wedi sicrhau bod yr abaty yn "croesawu ymwelwyr am flynyddoedd i ddod".