Gwersi anodd y gorffennol

Dylan Iorwerth
Image caption Dylan Iorwerth sy'n cyflwyno Ddoe a Heddiw ar Radio Cymru

Sut mae digwyddiadau'r gorffennol yn dylanwadu ar fywyd heddiw, ac ydy hanes yn ail adrodd ei hun? Dyna'r hyn mae Dylan Iorwerth yn trafod yn ei gyfres newydd Ddoe a Heddiw ar Radio Cymru.

Yn yr ail raglen, trychinebau y diwydiant glo sydd yn dod o dan y chwyddwydr. Fe deithiodd Dylan i rai o'r cymoedd glofaol hynny sydd wedi eu heffeithio gan drychinebau o'r fath. Mae'n rhannu ei deimladau a'i argraffiadau gyda Cymru Fyw:


Mae'n anodd dychmygu bod pwll glo wedi bod yma erioed. Fel y rhan fwya' o faes glo De Cymru, mae coed wedi tyfu tros yr olion a'r hen rwydweithiau diwydiannol a thrafnidiaeth wedi eu troi'n llwybrau hamdden.

Llwybr beics ydi hwn ac mae pont yn croesi ato tros afon Tawe, ychydig i'r de o bentre' Ystalyfera. Does dim arwydd na dim, dim ond rhyw ychydig o dir wast yn lle parcio i geir ar hen safle glofa'r Tarenni Gleision.

Dim ond ar ôl croesi'r bont yr ydech chi'n gweld y blodau-gwneud a'r lluniau a'r helmedau a'r lampau a'r darnau o atgofion mewn 'sgrifen fras. A dim ond ar ôl mentro'n nes yr ydech chi'n sylweddoli mai cofeb ydi hon, i bedwar dyn a fu farw mewn damwain tanddaear.

Image copyright Golwg

Nid ym mwll Tarenni Gleision yr oedd hynny; mae hwnnw wedi hen gau. Ond rhywle yn y coed ar y llethr uwchben - yn anoddach fyth ei ddychmygu - mae'r hyn sy'n weddill o bwll glo'r Gleision. Ac yma, bedair blynedd yn ôl, y bu'r ddamwain angheuol ola' mewn pwll glo yng Nghymru.

Mae'r golled i'w theimlo o hyd yn y geiriau ar y gofeb ac mae i'w theimlo o hyd yn lleisiau Malcolm Jenkins wrth iddo sôn am ei fab, Garry, yr ieuenga' o'r pedwar a fu farw. Colled a chwerwder, hyd yn oed. Ac yntau wedi gweithio am bymtheng mlynedd ei hun mewn pyllau bach yn ardal Cwm Twrch, mae'r tad yn gwybod y dylai'r mab fod gyda nhw o hyd.

Image copyright Golwg

Mae'n siŵr mai dyna oedd y teimladau mewn cwm arall rhyw ugain milltir i'r dwyrain, hanner can mlynedd yn ôl. Ym mis Mai 1965 y bu'r trychineb mawr ola' mewn pwll yng Nghymru - tanchwa Pwll y Cambrian, ger Cwm Clydach.

Image caption Cwm Clydach wedi'r ddamwain yn 1965

Mae'r lluniau o'r cyfnod yn crisialu dwyster y digwyddiad. Mae'n addas, rhywsut, mai du a gwyn ydyn nhw, er y byddai yno liw yn y golygfeydd pen pwll. Lliw mewn ambell helmed a siaced, lliw mewn goleuadau brys a lliw yn nillad y bobol a ruthrodd yno o ganol eu gorchwylion pob dydd.

Ond mewn llun a ffaith, doedd yna fawr o liw pan aeth y 31 angladd hyd y strydoedd yn ardal Cwm Clydach a Thonypandy. Yn ôl arfer y cyfnod, dynion oedd yn duo'r palmentydd, yn rhesi hir disymud wrth i'r eirch gael eu gyrru heibio.

Image caption Glowyr y Cambrian yn aros am ragor o newyddion wedi'r ddamwain

A'r glesni'n lledu eto tros y llethrau uwchben y Cymoedd, mae yna hiraeth am ddiwydiant sydd fwy neu lai wedi mynd. Ond mae'n hiraeth cymhleth, am fywoliaeth oedd yn lladd.

A fyddai pobol yn dewis gweld y pyllau ar waith unwaith eto? A fydden nhw'n fodlon talu'r pris? Ai'r gofeb yna yng Nghwm Tawe yw'r ola', diolch byth?


Gallwch glywed yr ail raglen yn y gyfres Ddoe a Heddiw ar ddydd Llun, 24 Awst am 12:30 ar Radio Cymru.

Hefyd ar y BBC