Dychwelyd tocynnau Cwpan y Byd wedi ymgyrch ar-lein

Dan Evans Image copyright Facebook
Image caption Daeth Dan Evans o hyd i'r tocynnau wrth agos parseli yn ei waith

Mae dyn gafodd docynnau i wylio Cymru yn chwarae yng Nghwpan Rygbi'r Byd drwy gamgymeriad wedi eu dychwelyd i'r perchennog yn dilyn apêl ar wefannau cymdeithasol.

Daeth Dan Evans, 29 o Abertyleri, o hyd i bedwar tocyn i wylio Awstralia yn erbyn Cymru, werth £50 yr un, ymysg llythyrau gafodd drwy'r post.

Ar ôl i'w ymgyrch i ddod o hyd i'r perchennog gael ei rannu miloedd o weithiau ar Facebook, cafodd y tocynnau eu rhoi yn ôl i Neil Pugh o Benarth.

Dywedodd Mr Pugh ei fod yn "ryddhad" dod o hyd i'r tocynnau, ar ôl talu £210 yr un amdanyn nhw ar wefan Viagogo.

Image caption Aeth Mr Evans at Facebook i geisio dod o hyd i'r perchennog

"Mae'n rhyddhad mwy na dim oherwydd fe brynais bedwar tocyn ac ro'n i wedi cymryd arian gan dri ffrind amdanyn nhw," meddai.

"Doeddwn i heb ddweud wrthyn nhw ond maen nhw wedi cael gwybod erbyn hyn."

Dywedodd Mr Evans ei fod yn dechrau poeni am y tocynnau, ac nad oedd wedi meddwl am eu gwerthu ei hun.

Ychwanegodd: "Dwi'n falch iawn. Galla' i ddim disgrifio'r peth a dweud y gwir."