Wrecsam 1-0 Welling

Dominic Vose Image copyright Getty Images

Sgoriodd Dominic Vose gôl hwyr yn erbyn ei gyn-glwb wrth i Wrecsam guro Welling yn y Gynghrair Genedlaethol.

Cafodd Vose y bêl gan Adam Smith cyn saethu i'r rhwyd gyda 30 eiliad o'r 90 munud yn weddill.

Roedd chwaraewyr Gary Mills wedi cael trafferth creu cyfleoedd drwy'r gêm, wrth i amddiffyn Welling aros yn gadarn.

Mae Wrecsam nawr yn drydydd yn y tabl, ar ôl pedair buddugoliaeth yn olynol.