Symud pobl o 11 o dai ar ôl tirlithriad yn Llantrisant

Heol Y Beiliau, Llantrisant Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y tirlithriad ar Heol y Beiliau yn Llantrisant

Mae pobl wedi'u symud o 11 o dai yn dilyn tirlithriad yn Rhondda Cynon Taf.

Fe ddigwyddodd y tirlithriad ar Heol y Beiliau yn Llantrisant am tua 18:10 ddydd Sul.

Dywedodd Jennie Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod darnau o dir yn "disgyn i mewn i dai ac yn rhoi pwysau arnyn nhw".

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn credu mai wal yn disgyn oedd achos y tirlithriad.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fe wnaeth y gwasanaethau brys symud pobl o nifer o dai, gyda thrigolion yn symud i mewn gyda theulu neu ffrindiau.

"Dyw'r bobl yma ddim wedi dychwelyd i'w cartrefi eto. Mae peiriannydd adeiladu ar y safle i asesu'r sefyllfa."