Sylw Cyngor am y Gymraeg yn cythruddo

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Gwenllian Glyn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Caerdydd o "sylwadau hurt" wrth ddisgrifio'r Gymraeg yng nghyd-destun polisi cynllunio'r brifddinas.

Dywed y Gymdeithas iddynt dderbyn llythyr gan arweinydd y Cyngor yn dweud nad yw'r Gymraeg yn rhan o 'ffabrig cymdeithasol' y brifddinas.

Ar hyn o bryd mae archwilydd Llywodraeth Cymru yn ystyried Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sydd wedi ei lunio gan Gyngor Caerdydd.

Ond dywed y cyngor fod y geiriau wedi eu tynnu allan o'u cyd-destun, ac maent yn feirniadol bod y Gymdeithas yn codi pryderon am y cynllun datblygu "mor hwyr yn y broses ymgynghori."

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn rheoli datblygiadau newydd yn y ddinas.

Wrth i boblogaeth y brifddinas gynyddu, mae disgwyl i Gyngor Caerdydd godi oddeutu 40,000 o dai dros yr 11 mlynedd nesaf.

Dywed y Gymdeithas bod y cyngor wedi datgan nad yw'r iaith Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol Caerdydd wrth ystyried materion cynllunio.

Image caption Carl Morris

'Dyhead am y dyfodol'

Dywedodd Carl Morris, cadeirydd cell Caerdydd o Gymdeithas yr Iaith, ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru: "Roeddwn wedi synnu gyda'r ymateb yn dweud nad yw'r Gymraeg ar sail y dystiolaeth yn rhan o ffabric cymdeithasol y brifddinas."

"Mae hynny'n er gwaetha holl gymdeithasau, yr ysgolion, y capel a'r dyhead am fwy o Gymraeg yn y brifddinas.

"Ni'n trio meddwl am y genhedlaeth sydd i ddod, ein plant a dyhead rheini am ysgolion cyfrwng yn eu hardaloedd, a'r dyhead i glywed y Gymraeg yn y brifddinas, sy'n brifddinas i bawb yng Nghymru."

Amrywiaeth

Er bod Cyfrifiad 2011 yn dangos bod 11% o boblogaeth Caerdydd yn siarad Cymraeg, mae'r nifer yn amrywio o ardal i ardal, ac fe ddywed y Cyngor nad yw'r iaith yn rhan o wead cymdeithasol y ddinas o safbwynt cynllunio.

Mewn dogfen sy'n ymateb i gwestiynau am eu cynllun datblygu, maen nhw'n dweud eu bod wedi selio hynny ar gynllun Iaith Pawb Llywodraeth Cymru sy'n nodi bod angen i 70% o'r boblogaeth siarad Cymraeg er mwyn i'r iaith gael ei hystyried yn rhan o wead y gymuned.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at archwilydd Llywodraeth Cymru gan ddweud: "Byddwch yn ymwybodol bod nifer o ddatblygiadau wedi eu henwi yn uniaith Saesneg yn y ddinas dros y blynyddoedd - o "Assembly Square" i "Central Square".

"Mae enwi datblygiadau preifat yn uniaith Saesneg yn tanseilio statws a defnydd yr iaith.

"Ymhellach, ceir nifer o enwau strydoedd uniaith Saesneg yn cael eu codi o'r newydd ac arwyddion uniaith Saesneg sy'n rhan o ddatblygiadau newydd."

"Caiff y rheiny effaith negyddol ar ddefnydd a statws yr iaith yn ogystal."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'n siomedig fod y mater hwn wedi ei godi mor hwyr.

"Roedd yna gyfle digonol i bawb oedd am leisio barn i wneud hynny yn ystod y broses ymgynghori.

"Fe fydd y modd mae'r Cyngor wedi ymateb i'r pwnc hwn yn fater i archwilydd cynllunio Llywodraeth Cymru wrth iddo ystyried Cynllun Datblygu Lleol y ddinas."

Pe bai'r archwilydd yn cymeradwyo cynllun Cyngor Caerdydd fe allai ddod i rym erbyn Hydref eleni.

Straeon perthnasol