Caerdydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ffrae am bolisi cynllunio a'r Gymraeg

25 Awst 2015 Diweddarwyd 14:20 BST

Mae 'na ffrae yn corddi rhwng Cyngor Caerdydd a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglŷn â pholisi cynllunio yn y brifddinas.

Yn ôl y Gymdeithas, mae'n "hurt" bod y Cyngor yn nodi "nad yw'r iaith yn rhan o wead cymdeithasol" y ddinas wrth ystyried materion cynllunio.

Ond mae'r Cyngor yn dweud bod y Gymdeithas wedi cymryd y geiriau hynny allan o'u cyd-destun ac maen nhw'n beirniadu'r Gymdeithas am godi pryderon mor hwyr yn y broses ymgynghori.

Adroddiad Gwenllian Glyn.