Caerdydd allan o'r gwpan

Alex Revell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Alex Revell roddodd Caerdydd ar y blaen

MK Dons 2-1 Caerdydd

Ni fydd yr Adar Gleision yn nhrydedd rownd Cwpan Capital One wedi iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn yr MK Dons.

Roedd yr ymwelwyr yn rheoli'r gêm yn llwyr, ac ni chafodd y tîm cartref ergyd at y gôl am dros awr o chwarae.

Wedi dweud hynny, doedd Caerdydd ddim yn ddigon effeithiol o flaen gôl. Er gwaetha'r holl ymdrechion, doedd dim gôl tan 53 munud i mewn i'r gêm.

Daeth croesiad Craig Noone o hyd i Alex Revell ac fe darodd yntau ergyd o ongl anodd i gornel ucha'r rhwyd i roi Caerdydd ar y blaen.

Ond yna fe ddeffrodd y tîm cartref. Gyda 12 munud yn weddill fe sgoriodd Carl Baker gydag ergyd gyntaf ei dîm drwy'r gêm i ddod â'r Dons yn gyfartal.

Doedd dim mwy o sgorio o fewn y 90 munud ac roedd angen amser ychwanegol.

Yn ail gyfnod yr amser ychwanegol aeth yr MK Dons ar y blaen pan dderbyniodd Josh Murphy bas gan Samir Carruthers a rhwydo.

Daeth Simon Moore, golwr Caerdydd, yn agos at unioni'r sgor wrth fynd i fyny am gic gornel hwyr, ond doedd dim achubiaeth.