Dyn 38 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad

Mae dyn 38 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar y B4459 yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod car Honda Civic wedi gadael y ffordd a throi ben i waered mewn cae gerllaw ym Mhencader.

Roedd car Citroen Picasso hefyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, a bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân dynnu dyn, menyw a dau blentyn o'r car yna.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi'r gwrthdrawiad ddigwyddodd ychydig wedi 14:30 rhwng Maes Cader a Windy Corner.