Galw heddlu arfog i ddigwyddiad yng nghanol Llanelli

Llanelli Image copyright Llanelli Star
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw tua 15:50 brynhawn Mercher

Mae heddlu arfog wedi bod yn delio gyda digwyddiad yng nghanol Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ddydd Mercher.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 15:50.

Mae Ffordd yr Orsaf yn y dref yn dal ar gau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad oedd yn ffrwgwd rhwng tri dyn ar Ffordd yr Orsaf.

"Mae un dyn wedi ei gludo i'r ysbyty am driniaeth. Rhedodd dau ddyn arall o'r safle."

Cafodd dau ddyn eu harestio yn hwyrach.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn cynghori pobl i gadw'n glir o'r ardal os yn bosibl.

Apeliodd yr heddlu am dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.