BBC Cymru i ddarlledu Hanner Marathon Caerdydd yn fyw

Cardiff Half Marathon runners Image copyright Ben Evans
Image caption Mae disgwyl i tua 21,000 o redwyr gymryd rhan yn y ras ar ddydd Sul, 4 Hydref

Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar deledu gan BBC Cymru, am y tro cyntaf eleni, yn ogystal â rhaglen uchafbwyntiau.

Mae disgwyl i tua 21,000 o redwyr gymryd rhan yn y ras ar ddydd Sul, 4 Hydref.

Bydd Radio Cymru a Radio Wales hefyd yn darlledu'n fyw o'r digwyddiad.

Jason Mohammad fydd yn cyflwyno'r rhaglen deledu, gyda Lowri Morgan a Dot Davies allan ar strydoedd y ddinas.

Bydd y rhaglen yn fyw ar BBC Two Wales rhwng 08:30-11:15, gyda rhaglen uchafbwyntiau am 18:00.