Marwolaeth dyn yn Llyn y Felin, Penfro yn ddamwain

Mill Pond Image copyright Google

Mae cwest wedi dyfarnu bod marwolaeth dyn mewn pwll yn Sir Benfro yn ddamwain.

Clywodd y gwrandawiad bod John William Lyall wedi ei weld yn pwyso yn erbyn pont dros Lyn y Felin ym Mhenfro cyn iddo ddisgyn i mewn i'r dŵr ar 16 Ebrill.

Cafodd Mr Lyall, 56, ei dynnu o'r dŵr ond nid oedd yn anadlu.

Dywedodd y crwner bod Mr Lyall wedi boddi, a'i fod wedi marw drwy ddamwain.

Mae tri pherson wedi marw mewn digwyddiadau gwahanol yn Llyn y Felin ers dechrau'r flwyddyn, nid yw cwestau i'r marwolaethau eraill wedi eu cynnal eto.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn cytuno gyda phenderfyniad Cyngor Tref Penfro, na fyddai gosod rhwydi diogelwch o amgylch y pwll yn ymarferol.