Pryder am wasanaeth mabwysiadu a maethu

Llaw Image copyright Thinkstock

Mae'r corff sydd yn cynrychioli'r nifer fwyaf o weithwyr cymdeithasol wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i leisio pryderon am ddyfodol gwasanaethau mabwysiadu a maethu.

Daw'r pryderon yn dilyn tranc un o'r prif elusennau yn y maes, The British Association of Adoption and Fostering (BAAF), ym mis Gorffennaf.

Dywed Llywodraeth Cymru fod trefniadau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i gryfhau isadeiledd mabwysiadu a maethu yn dilyn diwedd BAAF, ac fe fydd cyhoeddiad yn cael ei wneud am hyn yn yr wythnosau nesaf.

Mae gwasanaethau BAAF wedi eu trosglwyddo i gyrff eraill yn Lloegr a'r Alban. Ond yng Nghymru nid oes sicrwydd ynglŷn â'r hyn sydd yn wynebu cangen Gymreig yr elusen - BAAF Cymru.

Mae'r grŵp yn rhedeg Cofrestr Fabwysiadu Cymru a'r Weithdrefn Adolygu Annibynnol, sydd yn ystyried ceisiadau gan fabwysiadwyr posib sydd wedi cael eu gwrthod. Mae hefyd yn rhedeg llinell gymorth, yn trefnu ymgyrchoedd hyfforddi a marchnata am fabwysiadu a maethu ar hyd a lled Cymru.

Mae wedi bod yn gweithredu yn rhannol ers i'r brif elusen Brydeinig fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, a hynny o achos anhawsterau arianol yn ôl BAAF.

Llythyr

Mewn llythyr sydd wedi ei anfon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, ac sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru, dywed Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) fod ei aelodau'n "bryderus iawn y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu colli, ar gost sylweddol i blant sydd angen eu mabwysiadu neu eu meithrin yng Nghymru."

Dywedodd Gaye Sheridan o BASW Cymru fod nifer o aelodau yng Nghymru wedi cysylltu gyda'r corff.

"Maen nhw'n credu fod BAAF wedi cynnig gwasanaeth gwerthfawr drwy Gymru fel cyfundrefn ymbarel ar gyfer nifer o wasanaethau penodol", meddai.

"Yn Lloegr mae'r gwasanaethau yn nawr yn ddarniog ac wedi eu cytuno rhwng nifer o gyrff bychain gwirfoddol ac yng Nghymru rydym yn bryderus nad ydi hyn yn digwydd cymaint â hynny ac nid yw cyfanrwydd yr holl wasanaeth yn cael ei ddal at ei gilydd."

Dywedodd Delyth Lloyd Griffiths, darlithwraig mewn gwasanaethau cymdeithasol ac aelod o bwyllgor BASW:

"Mae pethau i weld wedi digwydd yn sydyn iawn yn Lloegr a'r Alban ond er ein bod wedi clywed gan BAAF Cymru eu bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, sawl wythnos yn ddiweddarach dydyn ni'n dal ddim yn gwybod beth sy'n digwydd."

Llinell gymorth

Image copyright BAAF

Mae elusen arall yn y maes, Adoption UK, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi gweld cynnydd mewn galwadau i'w linell gymorth ers diwedd BAAF.

Mae Ann Bell, sydd wedi ei mabwysiadu ac yn mabwysiadu ei hun, yn Reolwraig Datblygu ar ran Adoption UK yng Nghymru. Dywedodd: "Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn ein bod yn darganfod ffordd yng Nghymru i gadw gafael ar yr arbennigedd a chanolbwynt gwybodaeth a rhagoriaeth y mae BAAF Cymru yn ei ddarparu."

"Yn Adoption UK rydym yn edrych i weld os oes rhannau o'u gwaith y bydde ni'n gallu ei wneud a bod o gymorth gyda fo. Y peth pwysig yw nad ydi teuluoedd sydd yn mabwysiadu yn cael eu gadael ar eu pen eu hun."

Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd gweinyddwyr BAAF, cwmni Smith & Williamson:

"Rydym yn gweithio gyda'r llywodraethau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i sicrhau trosglwyddiad llyfn o'r gwasanaethau hyn i ddiogelu gwasanaethau plant. Ein blaenoriaeth yw sicrhau parhad yn y gwasanaeth a chefnogaeth ar gyfer anghenion plant a'u teuluoedd."

Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r sefyllfa ynglŷn â BAAF, ac wedi cymryd camau i sicrhau fod BAAF Cymru yn parhau i weithredu ei ystod eang o wasanaethau hyd at ddechrau Medi tra rydym yn gorffen ein cynlluniau i gyflenwi'r gwaith yma mewn ffyrdd newydd. Bydd y trefniadau newydd yn cryfhau isadeiledd mabwysiadu a maethu, gan adeiladu ar ein gwaith o drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau partneriaethol i sicrhau fod gwasanaethau, yn cynnwys y Gofrestr Fabwysiadu Genedlaethol yn parhau i weithio'n effeithiol unwaith y bydd BAAF Cymru yn cau. Rydym yn disgwyl y byddwn yn gwneud cyhoeddiad llawn ar y mater yn yr wythnosau i ddod."