Crwner yn cadarnhau trysorau'r gorllewin

A gold ring declared treasure Image copyright NAtional Museum Wales

Mae crwner wedi cadarnhau mai trysor yw'r casgliad o fodrwyau aur ac arian prin a ddarganfuwyd mewn gwahanol rannau o dde orllewin Cymru.

Cafwyd hyd i fodrwy arian o'r 15fed neu'r 16eg ganrif yn Hwlffordd, Sir Benfro, gan Alun Rees yn 2014.

Daeth Phil Jenkins o hyd i fodrwy arian o'r 15fed ganrif yng Nghaeriw yn 2013, ac fe ddaethpwyd o hyd i fodrwyau aur yn Hundleton, Sir Benfro, ac yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin ar ddau achlysur gwahanol yn 2013.

Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ac Amgueddfa Cymru yn gobeithio prynu'r modrwyau.

Dywedodd Dr Mark Redknap o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: "Mae'r darganfyddiadau hyn yn cynnig gwybodaeth newydd am dlysau personol oedd yn bodoli mewn cyfnodau gwahanol yng Nghymru."

Image copyright NAtional Museum Wales
Image copyright NAtional museum Wales