CPD Wrecsam: Lle gwylio i gefnogwyr anabl

platfform wrecsam

Mae gan gefnogwyr Wrecsam adnodd newydd yn y Cae Ras - llwyfan gwylio arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn.

Bydd Arglwydd Faulkner o Gaerwrangon yn agor y llwyfan mewn seremoni cyn y gêm yn erbyn Halifax ddydd Sadwrn.

Mae'r Arglwydd Faulkner wedi ymgyrchu yn San Steffan i wella adnoddau ar gyfer cefnogwyr anabl.

Mae'r Farwnes Tanni Grey Thompson wedi canmol CPD Wrecsam am eu gwaith dros hawliau pobl anabl.

Yn ol y Farwnes mae'r clwb yn esiampl i glybiau chwaraeon eraill, a maen nhw wedi arwain y ffordd gydag agoriad y llwyfan gwylio newydd.