Sioe Awyr Y Rhyl: Mesurau diogelwch ychwanegol

Vulcan bomber
Image caption Mae'r Vulcan ymhlith yr awyrennau fydd i'w gweld yn hedfan dros arfordir y gogledd

Mae disgwyl i dros 180,000 o bobl fynychu Sioe Awyr y Gogledd yn y Rhyl dros y penwythnos.

Mae Cyngor Sir Dinbych wedi dweud eu bod wedi derbyn arweiniad gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ar ôl y ddamwain yn Shoreham penwythnos diwethaf, ac fe fydd diogelwch yn brif flaenoriaeth.

Mae trefnwyr sioeau awyr wedi cael cyngor ynglŷn â chyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol yn sgil y trychineb yn ne Lloegr, gan gynnwys cyfyngu ar symudiadau aerobatig hen awyrennau.

Yn ôl y CAA bydd rhai arddangosfeydd yn cael eu cyfyngu hefyd i hedfan dros y môr yn unig.

Ymhlith yr awyrennau hanesyddol fydd i'w gweld ger y Rhyl - mae awyren fomio eiconig o gyfnod y Rhyfel Oer - y British Vulcan - neu'r Vulcan XH558.

Bu'r awyren yn weithredol rhwng y 1950au a 1985.