Medal efydd i Seren

Image copyright Matt Davis

Mae'r Gymraes Seren Bundy-Davies wedi ennill medal efydd ym mhencampwriaethau'r Byd yn Beijing.

Fe redodd yr athletwraig 20 oed gymal ola'r ras 4x400m i dîm Prydain, ac fe sicrhaodd y trydydd safle y tu ôl i Jamaica a'r Unol Daleithiau.

Perfformiad gorau'r tymor sef 3:23.62 i'r pedwarawd Prydeinig, sef Christine Ohuruogu, Anyika Onuora, Eilidh Child a Seren Bundy-Davies.

Image copyright Matt Davis