Streic Bysiau Caerdydd: Trafodaethau'n methu

Cardiff Bus
Image caption Bydd y streic 24 awr gyntafyn dechrau am hanner nos fore Mercher

Mae trafodaethau i geisio osgoi streic gan yrwyr bysiau yng Nghaerdydd ddydd Mercher wedi methu.

Bu rheolwyr cwmni Bysiau Caerdydd a swyddogion undebau yn cynnal trafodaethau yn Acas cyn y cyntaf mewn cyfres o streiciau.

Mae undeb Unite - sydd â 540 o aelodau yn y cwmni - wedi gwrthod codiad cyflog gwerth 5% erbyn 2016.

Am hanner nos fore Mercher mae'r streic 24 awr gyntaf i fod i ddechrau.

Mae'r cwmni yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig i faestrefi pe bai'r streic yn mynd ymlaen.

Fe wnaeth aelodau undeb Unsain dderbyn y codiad cyflog ym mis Gorffennaf ond fe wnaeth Unite alw ar y cwmni i ailfeddwl ei "strategaeth anhyblyg".

'Anhyblyg'

Mae tair o'r streiciau yn cyd-fynd â gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys gêm Cymru yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Bysiau Caerdydd, Cynthia Ogbonna: "Er ein hymdrechion, bydd streic yn cael ei gynnal gan aelodau undeb Unite ddydd Mercher.

"Fe wnaethon ni fynychu cyfarfod i geisio osgoi'r weithred ond yn anffodus ni chafodd y sefyllfa ei ddatrys.

Ychwanegodd Ms Ogbonna: "Mae Unite yn ceisio cael mwy o arian, arian nad oes gennym ni i'w wario."

Dywedodd trefnydd rhanbarthol Unite, Alan McCarthy, fod y cwmni yn "anhyblyg".

"Ry'n ni wedi bod yn trafod i gael ateb i'r broblem am dros 10 mis ond wedi taro wal frics," meddai.