Dal 100 yn goryrru yng Nghaerfyrddin mewn diwrnod

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dal tua 100 o yrwyr yn goryrru ddydd Sul yn ardal Caerfyrddin.

Yn ôl yr Arolygydd Mike Melly, roedd rali Car Cruise ar Faes Sioe'r Tair Sir yng Nghaerfyrddin.

"Roedd yr heddlu wedi cysylltu â'r rhai oedd yn ymwneud â'r digwyddiad er mwyn sicrhau eu diogelwch a diogelwch pobl eraill ar y ffyrdd.

"Roedd yr heddlu yn gwylio'r ffyrdd a chafodd nifer o gerbydau eu stopio.

"Cafodd tua 100 o gerbydau eu stopio ar amheuaeth o oryrru a chafodd dau eu stopio ar yr A48 yn gwneud mwy na 100 mya."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.