'Ciciwch Bale ac fe gewch chi gic yn ôl', medd King

Gareth Bale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd llawer yn teimlo bod Bale wedi bod yn darged i daclo brwnt Cyprus y llynedd

Mae Cymru yn barod ar gyfer taclo ffyrnig gan Gyprus ar Gareth Bale yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 nos Iau, meddai Andy King.

Mae chwaraewr canol cae Caerlŷr yn teimlo bod Bale wedi cael ei "dargedu" gan Gyprus yn y gêm gartref y llynedd pan wnaeth Cymru ennill o 2-1.

Fe gafodd King gerdyn coch am dacl wael yn ail hanner y gêm, ond mae'n mynnu na fydd Cymru'n dal yn ôl yn Nicosia.

"Pen dy'ch chi'n chwarae yn erbyn tîm sydd eisiau'n cicio ni, rhaid iddyn nhw ddeall y byddan ni yn eu cicio nhw yn ôl," meddai.

"Ry'n ni'n disgwyl gêm anodd. Maen nhw'n dîm da - tîm cryf, corfforol. Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn barod am hynny."

Gyda Joe Allen wedi'i anafu, King yw'r ffefryn i gymryd ei le yn y tîm nos Iau.

Image copyright PA
Image caption Fe gafodd Andy King gerdyn coch am dacl wael yn erbyn Cyprus yng Nghaerdydd

Mae Cymru yn teithio i Gyprus yn gwybod y bydd buddugoliaeth yn Nicosia yn golygu y byddai tri phwynt yng Nghaerdydd yn erbyn Israel ddydd Sul yn sicrhau eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ond mae Cyprus yn dal yn y ras i gyrraedd y bencampwriaeth yn ogystal, ddau bwynt yn unig y tu ôl i Wlad Belg yn yr ail safle yng Ngrŵp B.

Roedd llawer o'r Cymry yn teimlo bod Bale wedi bod yn darged i daclo brwnt Cyprus y llynedd, ac mae King yn disgwyl tactegau tebyg nos Iau.

"Roedden nhw'n meddwl eu bod yn gallu gwneud unrhyw beth heb unrhyw ymateb gennym ni," meddai.

"Roedd fy ngherdyn coch yn gamgymeriad ac rydw i wedi dysgu o hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod am yr un tactegau unwaith eto."

Fe allwch ddilyn holl gyffro gemau Cymru yn erbyn Cyprus nos Iau ac Israel ddydd Sul ar lif byw arbennig Cymru Fyw.

Straeon perthnasol