Cymraes yn Bletchley Park

Mair Russell-Jones Image copyright Gethin Russell-Jones
Image caption Mair Russell-Jones

Bu Mair Russell-Jones yn gweithio yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn torri codau'r Almaenwyr. 70 mlynedd ers diwedd y Rhyfel mae ei mab, Gethin Russell-Jones yn adrodd yr hanes a'r gyfrinach a gadwodd ei ddiweddar fam am yr holl flynyddoedd.

Daeth yr hyder i dorri ei haddewid pan oedd hi'n 90 mlwydd oed. Degawdau ar ôl iddi arwyddo'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol yn 1941, dechreuodd siarad am ei phrofiadau yn Bletchley Park.

Byddai pob ymwelydd i'w chartref yn clywed ei hanes rhyfeddol, fel rhan o gyfrinach mwyaf Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llofnodi'r 'Official Secrets Act'

Merch o Bontycymer oedd Mair Eluned Thomas, ac yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd pan aeth Prydain i ryfel yn erbyn yr Almaen. O'i blaen hi roedd gyrfa gerddorol addawol, ond newidiodd popeth iddi ar ôl sgwrs gyda dyn estron yn llyfrgell y brifysgol.

Wrth adolygu ar gyfer ei haroliadau olaf, derbyniodd wahoddiad gan un o weision y Swyddfa Gartref i weithio mewn uned newydd yn Bletchley Park.

Heb unrhyw wybodaeth arall, cafodd Mam gyfweliad llwyddiannus yn Llundain, lle cynigwyd y swydd iddi. Ac wrth lofnodi'r Official Secrets Act, cytunodd i beidio sôn am ei gwaith wrth neb fyth eto.

Adrodd ei hanes

Yn 1999 gwnaethon ni ymweld â Bletchley Park gyda Mam a Dad. Erbyn hynny roedd hi mewn cadair olwyn. Soniais wrth arweinydd yr ymweliad ei bod wedi gweithio yno yn ystod y rhyfel ac fe ofynnodd iddi i adrodd ei hanes. Roedd ei hateb yn blwmp ac yn blaen: "I couldn't possibly, I signed the Official Secrets Act."

Image copyright Gethin Russell-Jones
Image caption Mair Russell-Jones

Cyfarfod Winston Churchill

A dyna ddywedodd Mam am y rhan fwya' o'i bywyd. Ond yn ystod yr wythdegau, nawdegau a'r ganrif newydd, cyhoeddwyd nifer o lyfrau am BP, fel ei adnabyddir. Ac ar ôl derbyn tystysgrif a bathodyn oddi wrth y Prif Weinidog Gordon Brown yn 2010, dechreuodd Mam siarad heb stopio.

Byddai'n sôn am ei phrofiadau yn Hut 6 yn dadansoddi negeseuon cyfrwys yr Enigma, system cudd yr Almaenwyr. Dyma lle cwrddodd hi â Winston Churchill [Prif Weinidog y cyfnod], yn ystod ei unig ymweliad ef â BP. "You are the geese that laid a golden egg and never cackled", dywedodd.

Alan Turing a'i gyfrifiadur rhyfedd

Soniai hi hefyd am waith Alan Turing [y mathemategwr o fri] a'i gyfrifiadur rhyfedd a'i ddillad mwy rhyfeddol. Cofiodd fy mam ei weld yn y ffreutur yn gwisgo trwsus pyjama. Tro arall gwelodd hi Alan yn seiclo o gwmpas y gerddi yn gwisgo masg nwy dros ei wyneb.

Image copyright Gethin Russell-Jones
Image caption Cyhoeddodd Mair a Gethin Russell-Jones lyfr yn 2014 yn adrodd yr hanes

Gwaith rhyfeddol

Ond y gwaith oedd y peth mwya' syfrdanol. Erbyn diwedd y rhyfel roedd BP yn derbyn miloedd o godau gwahanol bob dydd ac yn llwyddo i ddadansoddi pob un.

Roedd yr Almaen yn benderfynol ei fod yn amhosib i gracio'r Enigma a tan y diwedd meddyliant fod y milwyr eu hunain yn ysbïo arnynt ac yn rhoi gwybodaeth i'w gelynion.

Gyda'i chyd-weithwyr eraill bu Mam wrthi'n trefnu rhai o ymgyrchoedd mwya'r rhyfel, gan gynnwys D-Day a Battle of the Atlantic. Pan ddechreuodd yn BP, doedd hi ddim cweit wedi deall natur y gwaith caled a fyddai o'i blaen.

Maddau i'r Almaenwr

Yn ystod ei hunig ymweliad â BP yn 1999, digwyddodd rhywbeth melys ac arwyddocaol i fy mam. Ar ôl peidio ateb cwestiwn arweinydd yr ymweliad y diwrnod hwnnw, daeth dyn o'r Almaen ati. Bu'n beiriannydd ar yr Enigma yn ystod y rhyfel, a tybiodd fod Mam siŵr o fod wedi dadansoddi rhai o'i negeseuon. Gofynnodd am ei maddeuant ac o flaen Hut 6 gwnaethant ysgwyd dwylo ac estyn maddeuant i'w gilydd.