Jihadydd o Gaerdydd 'wedi marw'

Reyaad Khan (chwith) gyda Nasser Muthana yn y fideo
Image caption Reyaad Khan (chwith) gyda Nasser Muthana yn y fideo

Fe ddywed swyddogion mewn mosg yng Nghaerdydd bod cyn-fyfyriwr a deithiodd o'r brifddinas i Syria i ymuno gydag IS wedi cael ei ladd.

Cafodd marwolaeth Reyaad Khan ei chyhoeddi ym mosg Jalalia ddydd Gwener diwethaf wedi i'r Imam dderbyn galwad ffôn gan dan Reyaad Khan, yn ôl ysgrifennydd y mosg Mokaddus Miah.

Dywedodd aelod arall yn y mosg wrth BBC Cymru bod y teulu wedi cael gwybod fod y dyn 21 oed wedi ei ladd mewn cyrch gan awyren 'drone' y cynghreiriaid tua diwedd mis Awst.

Credir fod Reyaad Khan wedi teithio i Syria ar ddiwedd 2013. Ymddangosodd mewn fideo propaganda gan IS wrth ochr ei gyfaill Nasser Muthana sydd hefyd o Gaerdydd.

Ar y pryd dywedodd ei deulu yng Nghaerdydd eu bod wedi eu synnu, gan fynnu ei fod wedi ei gyflyru i ymuno â'r grŵp.

Cafodd Reyaad Khan, a gafodd ei eni ym Mhenarth, ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cantonian a Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol