Cyhuddo o geisio llofruddio yng Nghaerdydd

Heddlu Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Adamsdown, Caerdydd ar 1 Medi.

Bydd Raymond Burrell yn ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd ddydd Iau.

Mae'r dyn 38 oed hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod, wrth geisio osgoi cael ei arestio.

Yn y cyfamser, mae dyn 34 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben.

Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.