Grŵp Gwerin Cymraeg: Anfon aelodau yn ôl o America

calan
Image caption Mae ffidlwr y grŵp, Patrick Rimes a'r gitarydd Sam Humphreys, bellach wedi dychwelyd i Gymru

Mae dau aelod o'r grŵp gwerin Calan wedi cael eu gyrru adref o America ar ôl i awdurdodau tollau'r wlad wrthod mynediad iddynt.

Mae ffidlwr y grŵp, Patrick Rimes, a'r gitarydd Sam Humphreys bellach wedi dychwelyd i Gymru, tra bod aelodau eraill y band, y ffidlwraig Angharad Jenkins a'r gantores Bethan Rhiannon, wedi aros yn America i barhau â'u taith ar draws y wlad.

Mae'r grŵp wedi gorfod gohirio rhai perfformiadau oherwydd bod Patrick a Sam wedi gorfod dychwelyd adref.

Mae BBC Cymru Fyw ar ddeall bod yr awdurdodau wedi gwrthod mynediad oherwydd problemau yn ymwneud a 'gwaith papur' y grŵp wrth iddyn nhw geisio mynd mewn i'r wlad, ond bod eu tîm rheoli a hyrwyddwyr y daith yn ceisio gwneud popeth bosib i gael datrysiad i'r sefyllfa.

Fe fydd rheolwyr y grŵp yn gwneud datganiad maes o law.

Ym mis Chwefror, gwrthododd yr awdurdodau yn America i'r gantores Kizzy Crawford o Ferthyr Tudful rhag cael mynediad i America.

Straeon perthnasol