Dynes o Bontardawe wedi marw ar wyliau yn Majorca

Location map

Mae dynes o ardal Pontardawe wedi marw tra ar ei gwyliau ym Majorca.

Y gred yw iddi ddisgyn oddi ar falconi.

Roedd Emma Evans, sy'n byw yn Alltwen, ar wyliau gyda'i gŵr Martin ac un o'u tri o blant.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wrth BBC Cymru eu bod yn "cadarnhau marwolaeth person o Brydain ym Majorca ar 3 Medi".

Ychwanegodd: "Rydym yn cynnig cymorth consylaidd i'r teulu ar hyn o bryd."