Corff babi mewn afon: Ymchwiliad yn dod i ben

stadiwm
Image caption Fe gafodd y corff ei ddarganfod yn ardal Taffs Mead Embankment ger Afon Taf

Mae'r heddlu wedi gorffen eu hymchwiliad wedi i gorff bachgen bach gael ei ddarganfod mewn afon yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y corff ei ddarganfod yn ardal Taffs Mead Embankment ger Afon Taf ym mis Mehefin.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac nid yw teulu'r baban wedi cysylltu â'r awdurdodau.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn credu fod y babi wedi marw ar ei enedigaeth.