Rybuddion teithio i Gaerdydd ar gyfer gemau Cymru

Sam Warburton a Gareth Bale Image copyright PA/AP

Mae Caerdydd yn paratoi i gynnal un o'i benwythnosau prysuraf o chwaraeon - gyda phêl-droedwyr Cymru yn gobeithio cyrraedd Euro 2016, a'r tîm rygbi yn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd gan wynebu'r Eidal.

Bydd ffyrdd ar gau ddydd Sadwrn wrth i gefnogwyr rygbi wneud eu ffordd i Stadiwm y Mileniwm, tra bo streic wedi ei drefnu gan rai o yrwyr Bws Caerdydd.

Ddydd Sul, bydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Israel yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae rheolwyr trenau wedi dweud y bydd y bydd systemau rheoli torfeydd mewn lle.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Bws Caerdydd, Cynthia Ogbonna: "Ry'n ni'n ymddiheuro am y trafferthion y bydd hyn yn ei olygu i'n cwsmeriaid a byddan yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cadw'r ddinas i symud yn ystod yr amser yma," meddai.

Ddydd Sul, bydd mwy o newidiadau i lwybrau bysiau nes 12:00 wrth i'r ddinas gynnal ras 10K Caerdydd, gyda mwy o ffyrdd ar gau.