Ymosodiad Caernarfon: Dyn yn y llys am geisio llofruddio

gorsaf dân y dref Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y digwyddiad ger gorsaf dân y dref

Mae dyn o Gaernarfon wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio'i wraig.

Fe gafodd Sylvan Parry, 46 oed, ei arestio yn dilyn ymosodiad ar ei wraig, Fiona, wrth iddi fynd a'i phlant i'r ysgol ar hyd llwybr Cefn Cadnant ger gorsaf dân y dref.

Cafodd Mrs Parry ei hedfan i ysbyty yn Stoke on Trent ar ôl iddi gael ei hanafu fore Iau.

Clywodd y llys fod tri diffoddwr tân wedi ceisio ei chynorthwyo ar y pryd, a'i bod bellach mewn coma bwriadol yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w phen.

Nid oedd cais am fechnïaeth, ac fe fydd Sylvan Parry yn parhau yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 14 Medi.

Straeon perthnasol