Elizabeth II: Teyrnasiad hiraf yn hanes Prydain

Y Frenhines Elizabeth II
Image caption Fe ddaeth y Frenhines i Gastell Caernarfon yn Ebrill 2010

Am 17:30 Elizabeth II fydd y Frenhines sydd wedi teyrnasu am y cyfnod hiraf yn hanes Prydain, a hynny am 63 o flynyddoedd.

Mae hyn yn golygu y bydd y Frenhines yn torri record ei hen hen nain - Y Frenhines Fictoria deyrnasodd rhwng 1837 a 1901.

Yn ôl Palas Buckingham, roedd y Frenhines Fictoria wedi teyrnasu am 23,226 diwrnod, 16 awr a 23 munud.

Fe ddaeth y Dywysoges Elizabeth Alexandra Mary yn Frenhines wedi marwolaeth ei thad - Y Brenin George VI fu farw ar 6 Chwefror 1952.

Y Frenhines fydd yr ail i deyrnasu am y cyfnod hiraf yn hanes y byd, a hynny ar ôl y Brenin Bhumibol Adulyadej o Wlad Thai sydd wedi teyrnasu ers 65 o flynyddoedd.

Diwrnod arferol

Nid oes unrhyw ddigwyddiad swyddogol wedi ei drefnu i nodi carreg filltir y Frenhines ac mae disgwyl i'r Frenhines dreulio'r dydd fel unrhyw ddiwrnod arferol.

Yn unol â thraddodiad, mae'r Frenhines a'i gŵr - Dug Caeredin - yn treulio'r cyfnod ar ddiwedd yr haf yn ei chartref yng Nghastell Balmoral yn Sir Aberdeen yn yr Alban.

Fe fydd y Frenhines a'r Dug yn treulio'r diwrnod yn agor rheilffordd stêm ar y ffin rhwng Yr Alban a Lloegr.

Mae Tywysog Cymru yn ffilmio rhaglen ddogfen i nodi 40 mlynedd ers sefydlu elusen Ymddiriedolaeth y Tywysog - gyda'r cyflwynwyr Ant a Dec.

Image caption Fe ddaeth y Dywysoges Elizabeth yn Frenhines adeg marwolaeth ei thad - Y Brenin George VI - ym mis Chwefror 1952
Image caption Fe gafodd y Frenhines Elizabeth II ei choroni ar 2 Mehefin 1953
Image caption Dim ond 25 oed oedd y Dywysoges Elizabeth Alexandra Mary (Elizabeth II) pan etifeddodd y goron
Image caption Fe gafodd mab y Frenhines - Charles - ei arwisgo fel Tywysog Cymru yn 1969
Image caption Fe briododd y Dywysoges Elizabeth y Tywysog Philip Mountbatten o Roeg a Denmarc yn 1947
Image caption Fe fydd y Frenhines Elizabeth II yn 90 oed ym mis Ebrill 2016