Mapio tir a gollwyd 7,500 o flynyddoedd yn ôl

Doggerland Image copyright Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Image caption Llun cyfrifiadurol yn dangos Doggerland

Mae archaeolegydd o Lanbedr Pont Steffan yn rhan o dîm sy'n gobeithio mapio darn hynafol o dir a gollwyd dan Fôr y Gogledd tua 7,500 o flynyddoedd yn ôl.

Bydd Dr Martin Bates o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymchwilio i ardal oddi ar arfordir Norfolk a adwaenir fel Doggerland.

Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, roedd Doggerland yn rhan o fasn sych a oedd yn cysylltu Prydain â thir mawr Ewrop. Ond wrth i'r iâ doddi, gorlifodd y tir.

Bydd y project yn defnyddio technegau mapio tanfor digidol, dyddio carbon a dadansoddi DNA i greu model cyfrifiadurol tri dimensiwn o'r tirlun, ynghyd â'r bobl a fyddai wedi byw yno.

Image copyright Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Image caption Dr Martin Bates

"Rydym yn edrych ar gyfnod rhwng 15,000 o flynyddoedd yn ôl, ar ddiwedd y cyfnod palaeolithig - pan oedd yr hinsawdd yn llawer oerach a'r bobl yn hela ceirw mawr - a dechrau'r cyfnod mesolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd yr hinsawdd yn llawer tebycach i'r hyn sydd gennym heddiw" meddai Dr Bates.

Soniwyd gyntaf am ddarn o dir coll tua'r un maint ag Iwerddon yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid oedd gan unrhyw un syniad o'r union faint tan i'r gwaith archwilio gael ei wneud ar gyfer y diwydiant olew a nwy ym Môr y Gogledd.

Bydd tîm Dr Bates yn drilio rhyw 6 medr i wely'r môr er mwyn cael deunydd i'w ddadansoddi.

"Y peth newydd am y project hwn" meddai, "yw y byddwn yn gallu defnyddio DNA i ddysgu am y bobl a oedd yn byw yno ac am y planhigion a'r anifeiliaid roedden nhw'n eu bwyta, ac yn gweld pryd roedden nhw'n symud o gwmpas yr ardal yma."

Disgwylir y canfyddiadau cyntaf y flwyddyn nesaf, a bydd map digidol terfynol Doggerland yn cymryd rhyw bum mlynedd i'w gwblhau.