Rhwystredigaeth: Cymru 0 - 0 Israel

Bale Image copyright EPA

Bydd yn rhaid aros ychydig yn hirach cyn dathlu wrth i Gymru gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Israel yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn dydd Sul.

Fe fyddai buddugoliaeth wedi sicrhau lle i Gymru yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc, ond cafodd dynion Chris Coleman eu rhwystro gan amddiffyn Israel, er bod nifer o gyfleoedd da iawn wedi dod i Gymru.

Cafodd Andy King ac Aaron Ramsey y cyfleoedd gorau'n gynnar yn y gêm, ac fe barhaodd Cymru i bwyso yn yr ail hanner. Bu bron i Gymru gipio buddugoliaeth yn eiliadau olaf amser ychwanegol wedi i Simon Church benio'r bêl i rwyd Israel, ond fe ddyfarnodd y llumanwr fod Cymru'n camsefyll.

Mae'r 57 o flynyddoedd heb gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol flaenllaw yn parhau felly, er bod Cymru'n dal ar frig Grŵp B.

Fe lwyddodd Cymru i sicrhau pwynt o'r canlyniad, ac mae 'na gyfle mathemategol y gallai'r garfan sicrhau lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf os bydd Gwlad Belg yn methu curo yng Nghyprus nos Sul.

Siom

Er y siom o fethu a churo Israel, mae Cymru mewn safle da gyda dwy gêm yn weddill - oddi cartref yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar 10 Hydref, ac adref yn erbyn Andorra ar 13 Hydref.

Mae gan Gymru dri phwynt yn fwy na Gwlad Belg sydd yn ail yn y grŵp, a phum pwynt yn fwy nag Israel sydd yn y trydydd safle. Er bod Cymru gam yn agosach at gyrraedd Ffrainc yn dilyn y gêm ddydd Sul, teimlad o rwystredigaeth yn hytrach na rhyddhad fydd ymysg y cefnogwyr ddaeth i Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu miloedd yn gobeithio am barti dathlu buddugoliaeth hanesyddol.

Fe fydd yn rhaid i'r cefnogwyr aros ychydig yn hirach felly nes bydd modd dechrau cynllunio'r daith dros y dŵr yr haf nesaf.

Image copyright Reuters