Sefydlu sianel ryngweithiol i Gymru

Lord Hall Image copyright Anthony Devlin/PA
Image caption Arglwydd Hall

Mae'r BBC wedi dweud eu bod am wella'r sylw sy'n cael ei roi i Gymru ar eu rhwydwaith.

Daw'r sylwadau mewn dogfen sy'n amlinellu cynlluniau'r gorfforaeth ar gyfer y ddegawd nesa.

Dywed y BBC bod yn rhaid gwneud mwy i "adlewyrchu bywydau a phrofiadau pobl sy'n talu'r drwydded."

Mewn araith oedd yn cyd-fynd a chyhoeddi'r ddogfen dywedodd Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, ei fod am weld sut mae modd gwella'r ddarpariaeth newyddion led led y DU.

Mae'r syniadau yn cynnwys sefydlu gwasanaeth rhyngweithiol ar-lein i Gymru.

Fe wnaeth yr Arglwydd Hall ei araith wrth i'r llywodraeth baratoi i adnewyddu siarter y BBC yn 2016.

Yn ôl y gorfforaeth mae yna addewid i "wella'r modd rydym yn portreadu a chynrychioli gwahanol wledydd y DU."

Ieithoedd brodorol

Mae'r ddogfen yn cydnabod fod yna ddirywiad wedi bod mewn rhaglenni Saesneg yng Nghymru, a dyw'r papur ddim yn ymateb yn uniongyrchol i alwad prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, am fuddsoddiad o £30 miliwn yn ychwanegol yn y maes arbennig yma.

Yn y ddogfen dywed y BBC y byddant yn ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy'n rhan o'r broses o arolygu'r Siarter.

Un bwriad yw sefydlu gwefan ar gyfer pob un o wledydd y DU.

Dywed y ddogfen fod yna "ymrwymiad i ddarlledu yn ieithoedd brodorol y DU."

Mae yna son hefyd y byddant yn rhannu technoleg ac arbenigaeth gydag S4C.

Ymhlith awgrymiadau eraill yr Arglwydd Hall mae sefydlu iPlayer yn benodol i blant a sefydlu cronfa o newyddiadurwyr lleol, fydd yn rhannu eu gwaith gyd phapurau newydd lleol.

Ond rhybuddiodd yr Arglwydd Hall na fyddai'r BBC yn parhau i dyfu ac y byddai toriadau cyllidol yn ei gwneud yn anorfod y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu lleihau neu eu colli.

Ond ni wnaeth Arglwydd Hall ymhelaethu pa wasanaethau sydd dan fygythiad.

Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru.

Mae cynlluniau'r BBC yn cydnabod fod angen i Gymru a materion Cymreig hawlio fwy o le ar wasanaethau Prydeinig y Gorfforaeth.

Er nad oes 'na ddatrysiad amlwg i'r sefyllfa yn nogfen y BBC, mae'r datganiad heddiw yn awgrymu y gallai'r syniad am raglen newyddion deledu y "Deg Gymreig" gael ei gwireddu.

Fyddai hwn yn golygu un rhaglen deledu Saesneg sy'n darlledu holl newyddion Cymru, Prydain a'r byd - yn hytrach na pharhau gyda'r drefn bresennol o rannu newyddion y "rhwydwaith" yn Llundain o'r hyn sy'n dod o Gymru.

Am y tro cyntaf, fe fydd gweinidogion Bae Caerdydd yn cael rôl ffurfiol yn y broses o adolygu siarter y BBC. Ac er nad yw cais Carwyn Jones am £30m i wario ar raglenni Saesneg yng Nghymru wedi ennill lle yng nghynlluniau'r BBC, mae 'na ymrwymiad clir i ystyried barn Llywodraeth Cymru am ddyfodol y darlledwr.

Mae'r ddogfen yn llawn uchelgeisiau ond yn brin o fanylion ariannol ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i'r ffigurau ddod i'r amlwg dros y misoedd nesaf.