Cwest clogwyn: Marwolaeth ddamweiniol

Georgina Le Fjord Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Ms Le Fjord 15 troedfedd i ffwrdd o'r clogwyn pan gafodd hi ei tharo

Mae cwest i farwolaeth dynes 23 oed fu farw ar ôl i ddarn o glogwyn ddisgyn ar ei phen ar draeth yn ne Cymru wedi clywed y byddai wedi marw'n syth yn ystod y digwyddiad.

Roedd Georgina Le Fjord ar draeth Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, gyda ffrind yn dathlu diwedd cyfnod ei arholiadau pan ddigwyddodd y ddamwain ym mis Mehefin.

Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol gan ddweud fod yr hyn oedd wedi digwydd yn 'drasiedi ofnadwy'.

"Roedd yn ddiwrnod cyffredin ar y traeth ac roedd Georgina yn y lle anghywir ar yr amser anghywir", meddai Thomas Atherton, Dirprwy Grwner i Gaerdydd a'r Fro.

Image caption Blodau ar y traeth ger y fan lle bu Georgina Le Fjord farw