Tyrbinau
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gwrthod cynlluniau ynni gwynt ym Mhowys

7 Medi 2015 Diweddarwyd 21:49 BST

Mae pump o gynlluniau ynni gwynt ym Mhowys wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Prydain.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad yn "siomedig" a "phryderus".

Cafodd chweched cais ei ganiatáu ond heb ffordd o gysylltu'r safle ger Llandinam gyda'r grid cenedlaethol mae amheuon mawr am y cynllun. Adroddiad Sion Tecwyn.